
Patagonia
Ar fore’r 14eg o Awst 2007, a hynny ar ol un mis ar hugain o godi arian, gadawon yn grwp o 14 Gymru fach ar ein taith am fis ym Mhatagonia. Roedd dwy athrawes, Miss Olwen Edwards a Miss Nia MacMillan, arweinydd alltaith o Camre Cymru,( http://www.outlookexpeditions.com) Mr Dave Buddel ac 11 disgybl = Pippa Watkins, Danielle Turner, Emily England, Rebecca Price, Georgia Boss-Johnson, Nia Griffiths, Molly Pearson, Bethan Richards, Bethan Ward, Sara Lewis and Paul Worthington.
Mae Patagonia yn Ne America ble aeth grwp enfawr o fewnfudwyr o Gymru yno yn 1865, gyda’r gobaith o sefydlu gwaldfa fach Gymreig yno. Cymerodd y llong, Y Mimosa dri mis i gyrraedd y wlad, tra redden ni yno ychydig dros bedair awr ar hugain.
Beunos AiriesDalion ni fws o’r maes awyr yn y diwedd a’r ol aros oriau yn chwilio am fagiau Rebecca. Roedden nhw wedi penderfynu mynd ar daith fach i Rufain!!
Cyrhaeddon ni ein hostel yn gynnar yn y bore ac fe dreulion ni ein diwrnod cyntaf yn archwilio Beunos Aires
Prifddinas a’r ddinas fwyaf yn yr Ariannin yw Buenos Aires. Lleolir y brifddinas hon ar arfordir deheuol Río de la Plata, sydd ar arfordir De-ddwyrain cyfandir De America.
Mae Buenos Aires hefyd yn ardal metropolitan sy’n cynnwys y Brifddinas ffederal a hefyd 24 isddosbarthiadau gweinyddol o fewn Talaith Buenos Aires. Mae poblogaeth y ddinas o gwmpas 8 miliwn tra fod poblogaeth yr holl dalaith tua 12 miliwn.
Ar y dydd Gwener fe aethon ar daith bws o gylch y ddinas ble ddysgon ni am ei hanes diddorol a’i diwylliant, er hynny, gwelsom rhai ardaloedd hynod o dlawd.
Yn hwyrach y noson honnon fe aethon ar fws am un awr ar hugain o Beunos Aires i Puetro Madryn
Puetro Madryn (Porth Madryn)Roedd y daith ar hyd y ffordd yn un hir ac roedden ni’n teithio ar ffordd lled-anialdir. Fel y gwelwch, doedd dim llawer o dyfiant yma.
Y diwrnod canlynol fe aethom ar daith bws o gylch Penrhyn Valdes (Península Valdés). Mae Penrhyn Valdés yn fan o warchodaeth arwyddocaol byd-eang yn enwedig gyda’r mamaliaid môr, Y mae’n gartref arbennig i boblogaeth bridog prin y morfil (southern right whale) yn ogystal i’r morloi eliffantaidd deheuol (southern elephant seals) ac i’r mor-lewod deheuol (southern sea lions). Y mae’r orcas yn yr ardal hon wedi datblygu strategaeth hela unigryw er mwyn addasu i’r amodau arfordirol lleol. Y peth cyntaf a wnaethom oedd mynd ar daith i weld y morfilod.
Roedd hwn yn gyfle gwych i weld y morfil deheuol (Southern Right Whale).
Yn ystod ein taith cawsom y cyfle i flasu diod cenedlaethol Patagonia. Y maen’t yn gweinyddu’r diod hwn drwy Mette. Y mae fel tê gwyrdd ond gyda blas llawer mwy sur. Y mae’r Ariannwyr yn yfed o’r Mette drwy’r amser, iddyn nhw mae yn ddiod ymlaciol. Ond ymateb tra gwahanol oedd gan ein criw ni!!
Fe aethon o gylch Penrhyn Valdes yn dilyn hyn, gan weld y morfilod eliffantaidd a’r mor-lewod. Llwyth y morfilod eliffantaidd yn y Penrhyn yw’r bedwaredd llwyth fwyaf yn y byd, a hon yw’r unig lwyth sy’n tyfu mewn nifer.
Pan ddychwelsom i Puerto Madryn ac ar y traeth yno fe welsom Fflamingos pinc.
Dyma’r fan lle glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865. Y mae’n wahanol iawn heddiw gan fod economi’r ardal wedi tyfu ac y mae Puerto Madryn bellach yn le llawer iawn mwy na thraeth yng nghanol unman.
Ymwelsom a’r Amgueddfa Gymreig ble y gwelsom baner yr Ariannin wedi ei uno â baner Cymru. Yno roedd hanes y Mimosa, y tê Cymreig, yr etifeddiaeth Gymreig yn ogystal â gwybodaeth am yr Eisteddfod a’r Gadair.
Yn dilyn ein hamser yn yr amgueddfa, fe aethom i weld yr ogofau ble yr arhosodd 158 o Gymry yn ystod yr wythnosau cyntaf a’r ol cyrraedd traeth Puerto Madryn.
Mae’r awyrgylch Cymreig yn gryf o hyd yn Puerto Madryn.
Gaiman
Treulion ein cyfnod prosiect yn y Gaiman. Tref fechan ble ymsefydlodd y Cymry cyntaf. Roedd ein prosiect yn seiliedig ar y dref a’r ardal ac fe fuom yn hynod o brysur am wythnos gyfan.
Dechreuon ein prosiect drwy godi sbwriel mewn ysgol ac yna fe roesom finiau i’r ysgol a wnaethpwyd gan grwp o weithwyr anabal ble yr oeddem ni wedi comisiynnu’r gwaith. Fe aethom ati wedyn i godi sbwriel o gylch mynwent ble roedd o gwmpas 60% o’r cerrig beddau yn yr iaith Gymraeg.
Yna fe aethom i blannu 20 goed Eucaplypus gyda disgyblion o’r Ysgol Uwchradd lleol, Ysgol Camwy, mewn man o’r enw y Sgwar Cymreig. Yno roedd cylch yr orsedd hefyd.
Fe fu rhai o’n grwp yn gweithio yn yr Ysgol Meithryn lleol, ble roedd o gwmpas 20 o blant o dan 5 oed yn dysgu Cymraeg. Fe fu i’n grwp ni gynorthwyo’r plant i beintio wal er mwyn dathlu pen-blwydd y mudiad yn bedwar ar ddeg oed.
Gan ein bod wedi derbyn cefnogaeth gan yr Heddlu yn nol yn Llanfair-ym-Muallt, fe gyflwynon ni blac gan Heddlu Dyfed Powys i’r heddlu yn y Gaiman. Roedd y seremoni hon yn un o bwys. Daeth dau griw o gamerau teleu yno a newyddiadurwyr, yn ogystal â Phennaeth yr Heddlu yn y Gaiman a Phennaeth yr Heddlu o’r dalaith.
Derbyniodd rai o’r grwp y cyfle i fynd i orsaf radio lleol er mwyn siarad yn Gymraeg ar raglen wythnosol. Roedd y sesiwn yn un ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Sbaeneg, ac roedd yn hynod o ddiddorol.
Ein prif brosiect am yr wythnos oedd darlunio murlun ar wal ysgol gynradd lleol. Fe ddewision ni’r diwrnodau gwaethaf i fynd ati gan eu bod hi’n hynod o oer, yn wlyb ac yn wyntog. Peintion ni logo ein Hysgol Uwchradd yng Nghymru, Sali Mali a sawl logo Cymreig arall. Roedd y gymuned mor falch o’r murlun fel y gwahoddwyd ni i fynychu sesiwn yn yr Ysgol Sul lleol a gynhelir yn yr ysgol gynradd ac yno fe gyflwynwyd anrheg iddym.
Fe wnaed yr holl gyfleoedd hyn yn bosibl drwy ein cyswllt yn ardal y Gaiman sef Luned Gonzales. Roedd teulu Luned yn un o’r fintai cyntaf a ddaeth drosodd o Gymru ar y Mimosa. Yn ogystal mae ein diolch yn fawr i Anna a roddodd le iddym aros am yr wythnos a hynny am ddim.
Yn ogystal a’r gwaith caled fe ddringom fryn a elwyd gan y bobl lleol yn Fryn Cacen. O ben y bryn gwelom yr holl dref. Fe aethom i gig roc leol hefyd.
Yn dilyn yr holl brofiadau hyn, fe ysgrifennon ddarn i’r papur lleol er mwyn diolch i bawb am eu croeso a hefyd er mwyn dweud wrth bawb beth a wnaethom yn yr ardal. El Bolson
Yn dilyn ein cyfnod prosiect fe deithiom i’r gorllewin i El Bolson er mwyn dechrau ein cyfnod ymdaith. Yn ein cynorthwyo drwy’r cyfnod hwn oedd Dave, ein arweinydd alltaith, sydd ar y chwith ac ein arweinyddion ymdaith gwych Cesar a Gabriel.
Dechreuon ein ymdaith cyntaf am 9 o’r gloch yn y bore gyda pwysau o 50 cilogram ar ein cefnau. Ar ol tri chwarter awr bu raid iddym groesi pont dros afon Azul. Roedd y bont wedi ei gorchuddio â rhew, fel y gwelwch, nid pont diogel iawn oedd hon!!
Hanner ffordd i fyny’r mynydd a chyrhaeddom yr eira, a phob cilomedr yr awn, roedd yr eira yn dyfnhau. O ganlyniad i’r tywydd cynnes anarferol roedd yr eira wedi meddalu ac ar adegau yr oeddem at ein cluniau mewn eira ac fe wnaeth hyn y cerdded yn hynod o anodd.
Arhosom mewn refugio sef cwt bach pren a leolwyd ychydig yn uwch na’r Wyddfa ar y mynydd. Gan ei fod mor hwyr pan gyrhaeddom, yr oedd rhaid i ni weithio o gwmpas pawb arall, ac roedd hi’n eitha poblog yn yr ystafell gysgu.
Ar yr ail ddiwrnod fe aethom i weld y rhewlifoedd a fe aethom ati i dyllu ogofau yn yr eira.
Fe aeth yr ail ymdaith a ni yr ochr arall i’r dyffryn, a llwyddom i gwblhau’r daith hon o fewn golau dydd! Ar yr ymdaith hon fe basion ni barc cerfluniau a wnaethpwyd gan gerflunwyr lleol, roedd rhain yn ddiddorol iawn. Y diwrnod canlynol fe gawsom amser gwych ar ein ceir llusg a chael hwyl yn yr eira.
Bariloche
|